Deall y jargon Deall y jargon - termau a ddefnyddir yn aml RhGC (Rheolau Gweithdrefnau Contractau) – rheolau mewnol y Cyngor ar gyfer caffael nwyddau, gwasanaethau a gwaith. UCC - Uned Caffael Corfforaethol e-Arwerthu - arwerthiant ar-lein lle mae cyflenwyr yn cystadlu yn erbyn ei gilydd gyda chynigion agored ar gyfer yr hawl i ddarparu nwyddau a gwasanaethau i'r prynwr. e-Gaffael - prynu neu werthu nwyddau a gwasanaethau ar-lein rhwng busnesau, gan gynnwys tendro electronig ac e-arwerthiannau. MD (Mynegi Diddordeb) - hysbyseb neu lythyr yn gofyn am ymateb gan gwmnïau neu unigolion cymwys erbyn dyddiad penodol. Deddfwriaeth UE - Mae Cyfarwyddebau Caffael Cyhoeddus yr Undeb Ewropeaidd yn rheolau a rheoliadau y mae'n rhaid i sefydliadau cyhoeddus lynu wrthynt wrth brynu nwyddau a gwasanaethau. GID (Gwahoddiad i dendro) - dogfen swyddogol sy'n darparu cefndir i angen, manyleb, amodau a thelerau eich contract. TMME - Tendr Mwyaf Manteisiol yn Economaidd Datganiad o Ddull - dogfen a ddefnyddir mewn proses dendro sy'n gosod cwestiynau i'r cyflenwyr eu hateb a fydd o gymorth i ddeall sut rydych yn bwriadu darparu'r nwyddau neu'r gwasanaethau. OJEU (Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd) - cyhoeddiad y mae'n rhaid i'r holl gontractau sector cyhoeddus y mae eu gwerth dros drothwy penodol gael eu cyhoeddi ynddo. HCC (Holiadur Cyn-Cymhwyso) - cyflwynir hwn i'r cwmnïau y mae ganddynt ddiddordeb mewn tendr arbennig. Mae'n asesu addasrwydd a gallu cyn cyflwyno dogfen dendro. Caffael - y weithred o gael nwyddau a/neu wasanaethau drwy brynu, prydlesu neu rentu Cardiau Prynu - cerdyn talu y gellir ei ddefnyddio i brynu nwyddau a/neu wasanaethau hyd at werth y cytunwyd arno gan rai cyflenwyr. CADd (Cais am ddyfynbris) - dyfynbris ysgrifenedig neu gais gan gyflenwr cymeradwy neu gymwys. Rhestr Ddethol - rhestr gymeradwy o gwmnïau a chanddynt ddiddordeb mewn gweithio fel is-gontractwr i'r cyngor. GwerthwchiGymru – Gwefan Llywodraeth Cynulliad Cymru sy'n hysbysebu contractau sector cyhoeddus BBaCh (SME) – cwmni bach neu ganolig ei faint. Rheolau Sefydlog - gweithdrefnau mewnol y cyngor ei hun ar gyfer caffael a chontractio A a Th (Amodau a thelerau) - yn amlinellu sefyllfa gyfreithiol contract ac yn cynnwys meysydd megis torri contract a therfynu'n gynnar. Tendro - y broses o wahodd a gwerthuso cynigion gan gyflenwyr i ddarparu nwyddau neu wasanaethau GAA (Gwerth am Arian) - yr egwyddor sy'n sail i bob gweithgaredd prynu sector cyhoeddus Consortiwm Prynu Cymru (CPC) - trefniant prynu ar y cyd ar gyfer deuddeg awdurdod lleol yn ne Cymru Gwerth Cymru - yn darparu cyngor a chefnogaeth ar brynu a chaffael callach i Lywodraeth Cynulliad Cymru a'r sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru