Y broses dendro
Y broses dendro
Fel arfer, gwahoddir tendrau o dan naill ai gweithdrefn dendro
"gyfyngedig" neu "agored"
Gweithdrefn Dendro Agored - gwahoddir unrhyw sefydliad sy'n
mynegi diddordeb mewn gofyniad a hysbysebir i dendro, a chyflwynir
gwahoddiad iddynt dendro dogfennau. Nid yw'r weithdrefn hon yn cael
ei dewis oni bai bod nifer disgwyliedig y ceisiadau'n debygol o fod
yn hawdd eu trin.
Gweithdrefn Dendro Gyfyngedig - defnyddir y weithdrefn hon os
disgwylir lefel uchel o ddiddordeb. Mae sefydliadau sy'n mynegi
diddordeb mewn tendro yn cael asesiad cyn cymhwyster cychwynnol i
werthuso eu sefyllfa ariannol (os yw'r gwerth yn fwy na £144,371
neu os ystyrir bod y contract yn risg uchel) a'u gallu technegol i
gyflawni'r gwaith. Fel arfer, anfonir holiadur cyn cymhwyster i'r
ymgeiswyr y mae'n rhaid ei gwblhau'n llawn a'i ddychwelyd erbyn
dyddiad ac amser penodol.
Gwerthusir ymatebion yn erbyn meini prawf a bennwyd ymlaen llaw
a gwahoddir yr ymgeiswyr mwyaf addas i dendro.