Gweithdrefnau Caffael
Gweithdrefnau a Rheoliadau Caffael
Cyfeirir at weithdrefnau ar gyfer prynu fel "Rheolau
Gweithdrefnau Contractau”. Maent yn bwysig am eu bod yn helpu
i:
- roi fframwaith cyfreithiol ac anchwiliadwy i'n gweithgareddau
caffael
- cael gwasanaethau gwerth am arian i'r cyhoedd
- sicrhau ein bod yn cydymffurfio â'r gyfraith sy'n rheoli gwario
arian cyhoeddus
- amddiffyn ein staff a'n haelodau rhag beirniadaeth ormodol neu
honiadau o gamwedd.
Dyma grynodeb o'n prif weithdrefnau caffael:
- I brynu pethau o dan £5000, rhaid cael o leiaf un dyfynbris
(oni bai y caiff ei brynu drwy un o'n contractau
corfforaethol).
- I brynu pethau dros £5,000, rhaid ceisio o leiaf tri
dyfynbris/tendr ysgrifenedig.
- I brynu pethau dros £50,000, rhaid ceisio tri thendr
ysgrifenedig gan ddefnyddio dogfen gwahoddiad ffurfiol i
dendro.
Mae'n ofyniad cyfreithiol hefyd i gydymffurfio â Chyfarwyddebau
Caffael yr UE ar gyfer contractau dros drothwyau penodol.
Ym mis Hydref 2007, roedd y trothwyau hyn yn £144,371 ar gyfer
gwasanaethau a chyflenwadau a £3,611,319 ar gyfer contractau
gwaith.
Mae'r rheoliadau'n seiliedig ar yr egwyddor ganlynol.
- Rhaid hysbysebu contractau sy'n fwy na'r trothwyau yng
Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (OJEU) fel y gall yr
holl bartïon sydd â diddordeb mewn aelod-wladwriaethau gael cyfle
cyfartal i gyflwyno tendrau;
- Rhaid i bob ymholiad dderbyn triniaeth gyfartal er mwyn dileu
gwahaniaethu ar sail cenedligrwydd y contractwr neu darddiad y
cyflenwadau, y gwasanaethau neu'r gwaith; a
- Rhaid i holl weithdrefnau dewis, tendro a dyfarnu cyflenwyr
gynnwys defnyddio meini prawf clir a gwrthrychol.