Rheoliadau a Gwasanaethau
Rheoliadau a Gwasanaethau Busnes
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn cynnig
amrywiaeth eang o wasanaethau i gynorthwyo busnesau lleol ac er
lles yr economi leol.
Hefyd, mae ar y cyngor rwymedigaeth i orfodi nifer o reoliadau y
mae'n rhaid i fusnesau weithio oddi mewn iddynt. Nod y rheoliadau
hyn yw sicrhau diogelwch eu staff a phobl leol, sicrhau masnachu
teg a diogelu'r amgylchedd lleol.
Rheoli Adeiladu
Mae gan swyddogion rheoli adeiladu wybodaeth fanwl am godi
adeiladau, dealltwriaeth fanwl o'r rheoliadau adeiladu a sut maent
yn cael eu cymhwyso. Mae'n ddyletswydd arnynt i sicrhau bod y
gwaith adeiladu'n cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol.
Mae swyddogion ar gael i gynorthwyo ag unrhyw ymholiad sydd
gennych a chynnig cyngor cyn gwneud cais.
Ffôn: 01639 686820
E-bost: building.control@npt.gov.uk
Trethi Busnes
Mae trethi busnes yn gymwys i'r rhan fwyaf o eiddo ac eithrio
tai. Y prif eithriadau yw adeiladau a thir fferm, eglwysi a
pharciau cyhoeddus.
Mae trethi busnes yn seiliedig ar eiddo ac fe'i cyfrifir trwy
luosi gwerth trethadwy'r eiddo wrth y lluosydd trethi (cyfradd yn y
bunt). Y Swyddog Prisio sy'n penderfynu ar werthoedd trethadwy
(ewch i Gwerthoedd Trethiannol am fwy o wybodaeth). Gallai trethi
busnes fod yn llai mewn rhai amgylchiadau, gweler Gostyngiadau i
Filiau Trethi.
Ffôn: 01639 686843
E-bost: Business.rates@swansea.gov.uk
Cefnogi ac Ariannu Busnes
Mae'r Tîm Gwasanaethau Busnes, sy'n gweithio o Uned Datblygu
Economaidd y Cyngor, yn rhoi amrywiaeth o help a chyngor i bobl
sydd am gychwyn, ehangu neu ail-leoli eu busnes yng Nghastell-nedd
Port Talbot. O ddigwyddiadau a seminarau busnes amrywiol sy'n
cynnig gwybodaeth sy'n berthnasol i fusnesau, manylion am eiddo
masnachol a diwydiannol gwag.
Ffôn: 01639 686835
E-bost: business@npt.gov.uk
Gwastraff Busnes/Masnachol
Mae gan fusnesau ddyletswydd gyfreithiol i waredu gwastraff yn
gyfrifol. Ceir mwy o wybodaeth ar dudalen Dyletswydd Gofal. Mae'n
rhaid i fusnesau ddefnyddio cludwr gwastraff cofrestredig i waredu
eu gwastraff a bod â dogfennau i ddangos y trefniadau sydd ganddynt
ar waith ar gyfer gwaredu gwastraff.
Mae'r Cyngor wrth law i gynnig arweiniad a chymorth ynghylch
gwaredu'ch gwastraff ac yn darparu amrywiaeth o finiau ag olwynion
ar gyfer casglu gwastraff masnachol a deunyddiau ailgylchu sydd
bellach yn cynnwys gwydr, caniau a chardbord.
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch y Ganolfan Alwadau Gwasanaeth
Cwsmeriaid ar 01639 686405.
Grant Eiddo Masnachol
Anelir y Grant Eiddo Masnachol at annog gwelliannau adeileddol o
safon uchel i adeiladau mewn ardaloedd masnachol ledled y
fwrdeistref sirol, gan gynnwys y canolfannau a gynhwysir yn statws
Cymunedau'n Gyntaf.
I gael gwybod pa wardiau sy'n gymwys neu i gael mwy o wybodaeth
am y grant, cysylltwch â'r Tîm Eiddo ac Adfywio.
Ffôn: 01639 686413
E-bost: regeneration@npt.gov.uk
Iechyd Amgylcheddol a Safonau Masnach
Mae Adran Iechyd Amgylcheddol a Safonau Masnach Castell-nedd
Port Talbot yn cynnig amrywiaeth llawn o wasanaethau i breswylwyr a
busnesau yn y fwrdeistref sirol. Nod ein gwasanaethau yw gwneud
Castell-nedd Port Talbot yn lle glân, iach a diogel i fyw, gweithio
a rhedeg busnes ynddo.
Ffôn: 01639 685678
E-bost: ehts@npt.gov.uk
Mae'r Gwasanaethau Iechyd Amgylcheddol a Safonau Masnach hyn
hefyd yn cynnwys:
Trwyddedau - ar gyfer tacsis, adloniant cyhoeddus, masnachu yn y
stryd a siopau anifeiliaid anwes etc.
Ffôn: 01639 763050
E-bost: licensing@npt.gov.uk
Diogelwch Bwyd - ar gyfer archwilio siopau ac arlwywyr,
hyfforddiant i fusnesau a gweithwyr mewn perthynas â hylendid
bwyd.
Ffôn: 01639 764325
Arian Ewropeaidd ac Allanol
Mae'r Tîm Ariannu Ewropeaidd ac Allanol yn rhan o'r Uned
Datblygu Economaidd ac yn cynnig gwasanaeth cynhwysfawr yn yr
awdurdod ac i gyrff allanol. Gyda mynediad i ffynonellau gwybodaeth
diweddar, rheoliadau a deddfwriaeth Ewropeaidd a all effeithio ar
eich busnes, mae'r tîm hefyd â swyddogion profiadol i'ch tywys trwy
anawsterau ceisio Arian Ewropeaidd, gan roi help i chi ddatblygu
prosiectau.
Ffôn: 01639 686829
E-bost: europeanteam@npt.gov.uk
Priffyrdd/Trafnidiaeth a Strydoedd
Mae gan Gastell-nedd Port Talbot rwydwaith o 804km o briffyrdd.
Er mwyn sicrhau bod y rhwydwaith yn gweithredu'n effeithlon trwy
gydol y flwyddyn, ymgymerir â gwaith cynnal a chadw ar y rhannau
amrywiol o'r ffordd fawr sy'n cynnwys ffyrdd, llwybrau troed,
ymylon ffyrdd, systemau draenio, adeileddau, goleuadau, arwyddion a
marciau heol.
Am ragor o wybodaeth, neu i roi gwybod am broblem, ewch i
http://www.npt.gov.uk/
Ffôn: 01639 686868
E-bost: customerservicecentre@npt.gov.uk
Cynllunio
Mae Adran Cynllunio'r cyngor yn gyfrifol am reoleiddio datblygu
tir ac adeiladau. Efallai y bydd angen caniatâd cynllunio cyn y
gall busnes ddechrau gweithredu a bydd ei angen os byddwch yn newid
prif ddefnydd adeilad neu'n datblygu safle newydd.
Er mwyn cynorthwyo'r broses o wneud cais i gynllunio, mae Adran
Gwasanaethau Cynllunio Castell-nedd Port Talbot wedi rhannu'r
fwrdeistref yn dri thîm ar wahân - i'r gogledd, y canolbarth a'r
de.
Ffôn: 01639 686738 (Gogledd)
01639 686754 (Canolbarth)
01639 686737 (De)
I weld map o'r ardaloedd cynllunio, ewch i Cysylltu â'r Adran
Rheoli Datblygu