Adfer y Gamlas
Adfer y Gamlas
Mae camlesi Tawe, Nedd a Thennant yn adnodd treftadaeth a
hamdden pwysig lle gellir cael datblygiadau sylweddol.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, buddsoddwyd mwy na £5 miliwn
yng nghamlas Nedd i ddileu llygredd ac adfer nodweddion y gamlas a
mordwyo ar hyd darn 8km o’r gamlas rhwng Castell-nedd ac
Abergarwed.
Mae ymarferoldeb mynd rhagddo â gwaith gwella ac adfer pellach
yn cael ei ystyried ar hyn o bryd gyda pherchnogion y gamlas,
ymddiriedolaethau camlesi a sefydliadau eraill â diddordeb.
Y nod yn y tymor hir yw cysylltu’r tair camlas drwy ddociau
Abertawe i greu dyfrffordd fewndirol fordwyol 35km gyda chysylltiad
â Môr Hafren.