Angela Johnson mewn gwaith diolch i Gweithffyrdd+
Mae Angela Johnson, 42 oed o Landysul, wrth ei bodd ar ôl dod o hyd i swydd drwy Gweithffyrdd+.
Nid oedd Angela wedi gweithio ers 15 mlynedd ar ôl rhoi'r gorau iddo er mwyn cael ei theulu. Pan ddechreuodd y plant yn yr ysgol yn amser llawn, roedd Angela am ddychwelyd i waith, ond roedd yn anodd dod o hyd i swydd a fyddai'n cyd-fynd â bywydau ei phlant ac a oedd yn lleol gan nad oedd yn gallu gyrru.
Cyfeiriwyd Angela i Gweithffyrdd+ gan y Ganolfan Byd Gwaith, ac aeth draw i Lyfrgell Aberteifi i gwrdd â mentor Gweithffyrdd+. Aethant ati i weithio gyda'i gilydd ar CV, sgiliau cyfweliad a thrafod pa fath o waith yr hoffai Angela ei wneud. Roedd cefndir Angela ym maes lletygarwch, ond roedd yn barod i wrando ar awgrymiadau a dywedodd y byddai'n barod i roi cynnig ar unrhyw beth.
Daeth Gweithffyrdd+ o hyd i swydd wag fel derbynnydd/ariannwr yn Teifi mania, canolfan chwarae i blant yn Aberteifi, ac awgrymwyd y dylai Angela gyflwyno cais amdani. Gofynnwyd i Angela fynd i gyfweliad a llwyddodd i gael y swydd. Roedd y contract ar gyfer 12 wythnos i ddechrau ond mae wedi'i ymestyn ddwywaith ers hynny.
Meddai Angela, "Roedd gweithio gyda thîm Gweithffyrdd+ yn wych. Roedd fy mentoriaid mor gefnogol. Rhoddon nhw'r hyder i fi ganolbwyntio ar fy nghryfderau a chefais gefnogaeth ymarferol i gwblhau'r broses o lunio CV a llwyddo yn y cyfweliad. Flwyddyn yn ôl, ni fyddwn wedi credu y byddwn wedi cael swydd y byddwn yn ei mwynhau. Rwyf wrth fy modd ac mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar fywyd fy nheulu gan fod gennyf incwm sefydlog bellach a gallwn fwynhau ansawdd bywyd gwell.
"Byddwn yn argymell Gweithffyrdd+ i unrhyw un sydd am ddychwelyd i gyflogaeth."
Meddai Tina Bailey, Cyfarwyddwr Teifi mania, "Mae wedi bod yn wych gweld pa mor wahanol yw Angela ers iddi ddechrau gyda ni yma'n gyntaf. Mae ei hyder wedi gwella'n fawr ac mae'n wych gyda'r cwsmeriaid. Rydym yn dîm bach iawn yma yn Teifimania ac mae Angela wedi cydweddu â ni'n berffaith."
Meddai'r Cyng. Ellen ap Gwyn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, “Mae’n galonogol clywed stori Angela, sydd wedi elwa o Gweithffyrdd+ fel llawer o bobl eraill. Mae’r prosiect yn chwarae rhan bwysig wrth helpu pobl dros 25 oed yng Ngheredigion i fynd yn ôl i weithio, derbyn cyfleoedd hyfforddiant neu wirfoddoli.”
Cefnogir Gweithffyrdd+ gan £7.5 miliwn o arian yr UE drwy Lywodraeth Cymru. Arweinir y prosiect gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, ar y cyd â Chyngor Abertawe, Cyngor Sir Gâr, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Ceredigion.