Camfanteisio'n rhywiol ar blant
Beth yw Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant?
Mae Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant (CSE) yn fath o gam-drin rhywiol lle mae plant yn cael eu hecsbloetio'n rhywiol am arian, pŵer neu statws.
Gall plant neu bobl ifanc cael eu twyllo i gredu eu bod mewn perthynas gariadus, gydsyniol. Gallent gael eu gwahodd i bartïon a gallent dderbyn cyffuriau ac alcohol. Efallai y meithrinir perthynas amhriodol â nhw ar-lein. Gall y sawl sy'n cam-drin fygwth y person ifanc yn gorfforol neu ar lafar neu fod yn dreisgar tuag ato. Bydd yn ei reoli a’i ddefnyddio ac yn ceisio’i ynysu oddi wrth ffrindiau a theulu. Mae'n digwydd i fechgyn a dynion ifanc yn ogystal â merched a menywod ifanc. Mae camdrinwyr yn glyfar iawn yn y ffordd y maent yn defnyddio’r bobl ifanc y maent yn eu cam-drin ac yn manteisio arnynt.
Mae rhai plant a phobl ifanc yn cael eu masnachu i neu o fewn y DU at ddibenion camfanteisio'n rhywiol.
Adnabod yr arwyddion
Gallai hyd yn oed rhywbeth sy'n ymddangos fel ymddygiad arferol i blentyn yn ei arddegau fod yn arwydd bod plentyn yn cael ei ecsbloetio.
Gall y rhain gynnwys:
- Defnyddio ffôn symudol yn fwy neu ddefnyddio dyfeisiau eraill, a bod yn gyfrinachgar wrth wneud hynny
- Treulio gormod o amser ar-lein a bod yn gyfrinachgar am yr amser a dreulir ar-lein
- 'Cariad' neu 'ffrind' sylweddol hŷn neu lawer o ffrindiau newydd
- Newid mewn ymddygiad – dod yn gyfrinachgar, yn gecrus, yn ymosodol, yn aflonyddgar, yn dawel, yn ddi-ddweud
- Derbyn anrhegion heb esboniad neu eiddo newydd fel dillad, gemwaith, ffonau symudol neu gael arian neu os oes ganddynt arian neu nwyddau eraill fel alcohol, nad oes eglurhad amdanynt.
- Mynd ar goll yn rheolaidd o'r cartref neu'r ysgol, am gyfnodau heb esboniad a/neu'n aros allan yn hwyr neu drwy'r nos.
Beth alla’ ei wneud fel rhiant neu ofalwr?
Mae'n bwysig trafod â phlant y gwahaniaethau rhwng perthnasoedd iach ac afiach er mwyn helpu i dynnu eu sylw at risgiau posib. Mae yna hefyd nifer o gamau ymarferol y gallwch eu cymryd i amddiffyn eich plentyn:
- Bod yn ymwybodol o newidiadau mewn ymddygiad neu unrhyw arwyddion corfforol o gam-drin fel cleisio.
- Bod yn ymwybodol o anrhegion neu eiddo newydd, heb esboniad, fel dillad, gemwaith, ffonau symudol neu os oes ganddynt arian neu nwyddau eraill fel alcohol, nad oes eglurhad amdanynt.
- Monitro'n ofalus unrhyw adegau o aros allan yn hwyr neu beidio â dychwelyd adref.
- Bod yn ofalus ynghylch ffrindiau hŷn sydd gan eich plentyn, neu berthynas â phobl ifanc eraill lle mae'n ymddangos bod anghydbwysedd o ran pŵer.
- Sicrhau eich bod yn deall y risgiau sy'n gysylltiedig â'ch plentyn yn mynd ar-lein a rhoi mesurau ar waith i leihau'r risgiau hyn.
Gall camfanteisio fod yn anodd ei adnabod, mae'n bwysig eich bod yn sylwi ar yr arwyddion ei fod yn digwydd.
Os yw plentyn mewn perygl uniongyrchol ffoniwch 999.
Os nad yw’ch pryder yn argyfwng gallwch ffonio’r heddlu ar 101.