Bwrdd Diogelu Iau
“Rwy'n hoffi'r BDI oherwydd mae'r holl aelodau'n dweud y gwir. Dydyn nhw ddim yn ceisio gwneud i broblemau sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc ymddangos yn fwy derbyniol, ac maen nhw wir yn poeni am geisio datrys y broblem.' Oisin, aelod o'r BDI
Diben y BDI yw bod plant a phobl ifanc yn cael y cyfle i leisio’u pryderon am ddiogelwch yn eu hysgol, ar-lein, gartref ac yn eu cymunedau. Mae Bwrdd Diogelu Gorllewin Morgannwg a swyddogion sy'n cefnogi'r BDI yn gweithio'n agos i sicrhau yr ymdrinnir â'r materion y mae plant a phobl ifanc ledled Gorllewin Morgannwg yn ystyried eu bod yn bwysig. Mae wedi bod yn flaenoriaeth i swyddogion sy'n cefnogi'r BDI sefydlu ffyrdd ar y cyd o weithio i hwyluso cyfranogiad plant a phobl ifanc, a dull adborth rhwng plant a phobl ifanc yng Ngorllewin Morgannwg a Bwrdd Diogelu Gorllewin Morgannwg, ac i'r gwrthwyneb.
Sefydlwyd y BDI ym mis Ionawr 2019, ac mae'n cynnwys cynrychiolwyr o ysgolion uwchradd ar draws rhanbarth Gorllewin Morgannwg gan gynnwys ysgolion i blant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol a chymhleth. Pan sefydlwyd y BDI yn 2019, byddai disgyblion o bob rhan o CNPT yn cyfarfod bob tymor i drafod y materion diogelu yr oeddent yn eu hwynebu gartref; yn yr ysgol; ac yn eu cymuned.
Cylchlythyr BDI
Er mwyn parhau i ymgysylltu â disgyblion ysgol ac aelodau'r BDI, cynhyrchir diweddariadau ar faterion diogelu ar ffurf cylchlythyr ar-lein bob chwarter a'u hanfon i ysgolion a Bwrdd Diogelu Gorllewin Morgannwg.