Wythnos Genedlaethol Diogelu
Mae Wythnos Ddiogelu yn ymgyrch flynyddol, Genedlaethol sy'n canolbwyntio ar ystod eang o faterion diogelu sy'n effeithio ar ein cymunedau yng Nghymru. Mae pob un o'r Byrddau Diogelu Rhanbarthol yn cydlynu rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau addysgol a chodi ymwybyddiaeth, wedi'u hanelu at y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol.
Wythnos Genedlaethol Diogelu 2024
11-15 Tachwedd
Eleni byddwn yn edrych ar Ddiogelu ar gyfer y rhai yn y gymuned,- ein thema yw 'Diogelu – Beth sy'n bwysig i chi?'
Rydym wedi bod yn edrych ar weithio gyda grwpiau a allai gynnal sesiwn sgwrs gydag aelodau'r cyhoedd i nodi beth sy'n bwysig i bobl yn y gymuned ynghylch diogelu. Rydym hefyd yn chwilio am adnoddau defnyddiol y gellir eu cynnwys yn ein rhaglen ar gyfer aelodau'r gymuned. Felly os ydych chi'n grŵp cymunedol – cysylltwch â j.williams19@npt.gov.uk
Mae arolwg yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd a bydd yn cael ei rannu yn ystod Wythnos Genedlaethol Diogelu.