Ehangiad yn yr arfaeth ar gyfer cwmni awyru

Mae cwmni awyru o Gymru yn bwriadu ehangu wrth i fusnes barhau i dyfu.

(O'r chwith, Martin Leonard, DW-Air, Sarah Fowler, Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Glyn Thomas, is-gwmni Tata Steel, UK Steel Enterprise.)

Mae cwmni DW-Air yn Ystalyfera sydd â rhestr gynyddol o gleientiaid ledled y DU, yn darparu aer glân ar gyfer pob math o adeilad, o gartrefi i swyddfeydd, pyllau nofio a ffatrïoedd.

Mae'r cwmni'n darparu gwasanaeth dylunio, gosod a chynnal a chadw, ac yn gweithio'n uniongyrchol â chwsmeriaid neu ar sail is-gontract.

Sefydlwyd DW-Air gan Martin Leonard ac mae bellach yn cyflogi pedwar aelod o staff, ac mae ganddo gynlluniau i gyflogi rhagor yn 2020 er mwyn ymdopi â'r galw.

Derbyniodd y cwmni grant o £500 gan raglen Kickstart, a gynhelir ar y cyd gan is-gwmni Tata Steel, UKSE, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Helpodd yr arian DW-Air i brynu cyfarpar profi hanfodol.

"Mae'r busnes yn ehangu'n gyflym ac rydym yn ennill gwaith newydd yng Nghymru ac yn y DU," meddai Martin.

Mae ehangiad ar y gorwel. Rydym yn cyflogi pedwar aelod o staff ar hyn o bryd ac yn bwriadu cyflogi rhagor o beirianwyr yn y dyfodol agos," ychwanegodd.

"Mae ymwybyddiaeth gynyddol fod ansawdd a phurdeb aer yn bwysig i les ac iechyd, yn y cartref ac yn y gweithle," ychwanegodd.

Meddai Glyn Thomas, Rheolwr ar gyfer UKSE yng Nghymru, "Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu helpu DW-Air gyda'i gynlluniau am dwf a dymunwn bob llwyddiant i'r cwmni. Mae'n galonogol fod y busnes yn bwriadu ehangu a chynnig ei wasanaethau'n ehangach ledled y DU.

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, "Mae Tîm Datblygu Economaidd y cyngor, mewn partneriaeth â Chynllun Grant UKSE, yn darparu cefnogaeth ariannol mawr ei hangen i helpu busnesau newydd a'r rheini sydd eisoes yn bod yng Nghastell-nedd Port Talbot i ffynnu a thyfu. Mae DW Air yn enghraifft wych o'r buddion y gall y grant hwn eu cynnig. Dymunwn bob llwyddiant i Martin wrth ddatblygu'i gwmni yn y dyfodol."