Cyn-weithiwr cwmni dur a'i wraig yn sefydlu menter cyfrifeg

Mae cyn-weithiwr o Tata Steel, Delme Davies, a'i wraig, Nina, wedi dechrau busnes cyfrifeg newydd yn llwyddiannus.

Mae'r ddau gyfrifydd wedi sefydlu Davies Warlow yn eu tref enedigol, Port Talbot.

Ymunodd Delme â chwmni British Steel ym 1998 pan drosglwyddodd gweithrediadau ariannol y cwmni o Lundain i Lanwern. Wedyn, symudodd gyda'r adran i Orb Electrical Steels yng Nghasnewydd, ac yna i ffatri Port Talbot, a gweithiodd mewn nifer o swyddi ariannol uwch dros y blynyddoedd.

Gan weithio ar brosiectau ailstrwythuro gan amlaf, gwelodd y cwmni dur yn newid o British Steel i Corus, ac i Tata Steel erbyn hyn.

Erbyn hyn, mae Delme'n gweithio gyda'i wraig a chyfrifydd siartredig arall, Nia, yn eu busnes eu hunain, Davies Warlow, yn eu tref enedig, Port Talbot, sy'n gwasanaethu nifer cynyddol o fusnesau BBaCh Cymru. Cyfarfu'r cwpl pan roedd y ddau ohonynt yn hyfforddi yng nghwmni ymgynghori cyfrifeg a busnes PwC yng Nghaerdydd.

Derbyniodd y busnes newydd, a lansiwyd y llynedd, grant gwerth £500 gan raglen Kickstart, a gynhelir ar y cyd gan isgwmni Tata Steel, UKSE, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

Mae Davies Warlow wedi bod yn llwyddiannus iawn yn ystod ei ddeuddeg mis cyntaf. "Rydym ni'n ennill cwsmeriaid newydd drwy'r amser, ac mae gofyn mawr am ein gwasanaethau ni," meddai Delme.

Mae'r cwmni'n cynnig ystod lawn o wasanaethau cyfrifeg, gan gynnwys trethi corfforaethol a phersonol, ac mae'n gwasanaethu busnesau BBaCH yn bennaf ac yn eu helpu i dyfu a gweithredu'n fwy effeithlon. "Wrth i gwmnïau ddatblygu, mae angen amrywiaeth ehangach o wasanaethau cyfrifeg arnynt," meddai Delme.

Gweithiodd Nia mewn swyddi ariannol uwch ar gyfer Tesco, cwmni ynni adnewyddadwy Inetech a Chyllid Cymru, sef Banc Datblygu Cymru erbyn hyn.

Sefydlwyd Davies Warlow y llynedd:"Roeddem yn credu y byddai cyfuno'n sgiliau a'n profiad yn golygu y gallem gynnig gwasanaeth gwell a mwy personol i'n cleientiaid, a fyddai'n diwallu eu hanghenion i gyd," meddai Nia.

"Yn ogystal ag anghenion o ran cydymffurfio, rydym hefyd yn eu helpu i ddehongli gwybodaeth a gwneud cyfrifon rheoli er mwyn iddynt wybod sut mae eu busnesau'n datblygu," meddai.

Roedd cefnogaeth y grant yn ddefnyddiol wrth brynu offer i'r swyddfa yn eu safle yn Ystad Ddiwydiannol Seaway Parade. "Roedd yn ddefnyddiol iawn ac fe'i defnyddiwyd i brynu offer angenrheidiol," meddai Delme.

Meddai Glyn Thomas, Rheolwr ar gyfer Cymru yn UKSE, "Rydym yn falch iawn o helpu i sefydlu Davies Warlow ac yn enwedig yn falch o gefnogi cyn-gydweithiwr Tata Steel. Mae'n braf gweld bod Delme a Nia'n cynorthwyo busnesau lleol sy'n creu swyddi ac yn datblygu cyfoeth economi Cymru.

"Rydym yn dymuno pob llwyddiant iddynt yn y fenter hon."

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, "Gan gydweithio gyda UKSE, gall Tîm Datblygu Economaidd y cyngor helpu busnesau newydd a busnesau presennol ar draws amrywiaeth eang o sectorau fel Delme a Nia, a gymerodd y cyfle i ddangos eu profiadau gwaith blaenorol a dechrau busnes er mwyn gweithio i'w hunain.

"Mae'r busnesau hyn yn hanfodol er mwyn datblygu'r economi leol ac mae'n braf gweld sut gall ein cefnogaeth gyfunol wneud cymaint o wahaniaeth iddynt."