Business Start-up Advice

Mae dechrau busnes newydd yn gallu bod yn gam cyffrous sy'n rhoi llawer o foddhad ac, yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot, rydym yn cydnabod bod egin fusnesau'n cyflawni rôl bwysig ar gyfer ein heconomi leol. Fel egin fusnes, rydych chi nid yn unig yn creu swyddi, ond hefyd yn arloesi ac yn canfod ffyrdd newydd o weithio, ac yn gwella'r ardal.Un rhan o nod y Tîm Datblygu

Economaidd yw cynorthwyo busnesau drwy gydol y broses gyfan o ddechrau busnes. Rydym yn cynnig pob math o gymorth, er enghraifft:

  • Cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai a chyrsiau ar gyfer egin fusnesau sy'n rhoi hyfforddiant ymarferol ar sgiliau busnes.
  • Cymorth i ddod o hyd i gyllid a chymorth priodol er mwyn eich helpu i wneud ceisiadau.
  • Gwybodaeth am safleoedd busnes.
  • Pecyn gwybodaeth i egin fusnesau sydd wedi'i deilwra yn unol ag anghenion eich busnes.
  • Manylion am gymorth, seminarau a gweithdai ymarferol, e.e. cadw cofnodion, sgiliau gofal cwsmeriaid, ennill busnes newydd ac ati, ar ôl dechrau masnachu.
  • Cymorth parhaus wrth i'r busnes ddatblygu.

Grant Dechrau Busnes – Mae ein grantiau busnes ar gael er mwyn helpu egin fusnesau newydd i gyflawni prosiectau DIM OND os nad ydynt yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer ffynonellau grant eraill, megis Llywodraeth Cymru. Mae'r cyllid ar gael i fusnesau sy'n gweithredu ar sail amser llawn a rhan-amser. Rhaid i fusnesau rhan-amser weithredu am o leiaf 16 awr yr wythnos. Rhoddir cyllid yn ôl disgresiwn a chaiff ceisiadau eu hystyried fesul achos.

I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch spfbusiness@npt.gov.uk

“Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.”