Ymgyrch Clystyrau Darganfod Castell-nedd Port Talbot


Mae 'galwad agored' ar waith gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot sy'n gwahodd darparwyr gweithgareddau, atyniadau, arweinwyr teithiau, darparwyr llety gwyliau (a gweithredwyr eraill sy'n darparu gwasanaethau i ymwelwyr â Chastell-nedd Port Talbot) i gyflwyno cynigion i ddarparu cyfres o brofiadau a gaiff eu hyrwyddo trwy ymgyrch farchnata Clystyrau Darganfod Castell-nedd Port Talbot.

Dim ond gweithredwyr twristiaeth sydd wedi'u lleoli yng Nghastell-nedd Port Talbot, neu sydd â phrofiad o weithredu yn y sir, fydd yn gymwys i gyflwyno cais.
Derbyniodd Tîm Twristiaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot gyllid yn ddiweddar trwy Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol (RTEF) Croeso Cymru i gyflawni'r ymgyrch Clystyrau Darganfod (sylwch mai teitl dros dro yn unig ar yr ymgyrch yw hwn).

Cefnogir y Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol trwy Raglen Datblygu Gwledig Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a ariannir trwy Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD), a Llywodraeth Cymru. 

Yr Ymgyrch

Mae rhaglen y prosiect yn cynnwys yr elfennau canlynol:
1. Ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus - gan gynnwys sicrhau ymweliadau gan y wasg neu flogwyr teithio
2. Ymgyrch ar-lein/ddigidol/cyfryngau cymdeithasol sy’n targedu marchnadoedd allweddol
3. Ymgyrch teithiau grŵp/corfforaethol sy'n targedu trefnwyr teithiau fel cwmnïau gwyliau.
4. Chwe fideo hyrwyddo (un yr un ar gyfer pob profiad)
5. Ffotograffau i'w defnyddio wrth roi'r ymgyrch ar waith
6. Gwaith dylunio graffig ar gyfer yr ymgyrch, gan gynnwys dylunio deunyddiau papur/digidol at ddefnydd y clystyrau cynnyrch
7. Ysgrifennu copi/cyfieithu
8. Comisiynu rheolwr prosiect a hwyluso gyda rhanddeiliaid.
9. Datblygu chwe chynnyrch y gellir eu neilltuo ymlaen llaw ar y cyd â chlystyrau diwydiant - gan gynnwys hyfforddiant heb ei achredu.
10. Rhoi cyngor cyfreithiol i'r clystyrau cynnyrch ynghylch Rheoliadau Teithio Pecyn a Threfniadau Teithio Cysylltiedig 2018 ac ysgrifennu achos busnes er mwyn rhannu gwybodaeth â rhanddeiliaid ehangach ym maes twristiaeth am ddulliau gweithredu'r prosiect.


Profiadau


Cynlluniwyd y chwe phrofiad craidd i gyd-fynd â brand Cymru, Blwyddyn Darganfod Croeso Cymru 2019 a Blwyddyn Awyr Agored 2020. Cynllunnir y profiadau hefyd i gwmpasu cymoedd ac ardaloedd trefol Castell-nedd Port Talbot.

Nodwyd y profiadau canlynol i’w darparu yng nghais y prosiect. Bydd angen i'r prosiectau a gynigir gan y Clystyrau ddangos eu bod yn cyd-fynd gymaint â phosibl â'r profiadau a ddisgrifir isod; fodd bynnag, gall clystyrau fireinio'r profiadau hyn ymhellach yn eu cais.

Profiad Antur Awyr Agored y Cymoedd: Bydd y clwstwr yn darparu gweithgareddau awyr agored ar hyd a lled ardaloedd Cymoedd y sir sy'n cwmpasu arlwy eiconig Gwlad y Sgydau ac yn cyflwyno profiadau heb eu darganfod yn ein dyffrynnoedd hardd. Er enghraifft, gellir darparu gweithgareddau dringo creigiau, ceunenta, cyfeiriannu ac ati yn rhan o'r profiad hwn. Dylid cynnig llety hefyd fel rhan o'r clwstwr hwn.

Lle i Feicio - Parc Fforest Afan: Bydd y profiad hwn yn targedu pobl sydd eisoes yn feicwyr mynydd gan gynnig gwasanaethau llogi beiciau, teithiau tywys ar drywyddau lleol neu hyfforddiant gloywi sgiliau beicio mynydd iddynt er mwyn gwneud yn fawr o'u taith feicio ym Mharc Fforest Afan. Dylid cynnig llety hefyd fel rhan o'r clwstwr hwn.

Parc Fforest Afan - Taith Antur Beicio Mynydd i Deuluoedd (Dechreuwyr): Gwyliau beicio mynydd sy'n targedu dechreuwyr llwyr ac yn cynnig profiad i'r teulu cyfan. Dylai darparwyr yn y clwstwr hwn allu cynnig hyfforddiant i grwpiau a theithiau beicio tywysedig a gallai hynny gynnwys hyfforddiant a theithiau tywys arbenigol ar gyfer benywod yn unig. Dylai'r profiad hwn gynnwys dewisiadau llety hefyd.

Port Talbot - Profiad 'Fel y Dur': Profiad sy'n defnyddio'r gwaith dur eiconig fel cefnlen ar gyfer gweithgareddau awyr agored egnïol, a fydd hefyd yn herio delwedd Port Talbot fel cyrchfan i ymwelwyr. Gallai'r profiad gynnwys syrffio ar Draeth Aberafan, antur awyr agored fel padlfyrddio neu antur gwifrau uchel ym Mharc Margam. Dylai’r cais ganolbwyntio ar gyflawni heriau corfforol a gallai gynnwys y marchnadoedd triathlon, marathon neu ddigwyddiadau aml-gamp a ddatblygir gan drefnwyr digwyddiadau yn yr ardal. Dylai'r profiad hwn greu clwstwr â llety priodol sy'n addas i natur yr ystod o archebion sy'n debygol o godi, h.y. llety ar gyfer grwpiau, llety gwestai neu lety gwely a brecwast, er enghraifft.

Profiad Dilyn Camre: Bydd y profiad hwn yn hyrwyddo rhai o'r teithiau cerdded/trywyddau tywys neu hunandywys gorau yn ardaloedd Cymoedd, Dyffrynnoedd a Glannau Castell-nedd Port Talbot a bydd yn cynnwys llety a dewisiadau bwyd o safon fel rhan o'r arhosiad. Mae'r cynnyrch hwn yn canolbwyntio ar bobl sydd â diddordeb yn nhreftadaeth a thirlun yr ardal a byddai'n apelio at bobl sydd am gerdded/feicio ar y llwybrau a'r trywyddau a ddefnyddid gan eu hynafiaid neu gan enwogion Castell-nedd Port Talbot, fel Richard Burton. Dylai'r profiad hwn ddangos amrywiaeth o brofiadau yn enwedig yn ardal Cymoedd y sir. Dylai'r profiad hwn gynnwys dewisiadau llety hefyd.

Taith Treftadaeth Parc Margam: Dylai'r profiad hwn greu taith dreftadaeth dywysedig o safon uchel sy'n olrhain treftadaeth Parc Gwledig Margam, Eglwys Abaty Margam ac Amgueddfa Gerrig Margam. Dylai'r profiad ddarparu taith dywys neu daith ddehongli drochol sy'n addas ar gyfer marchnadoedd defnyddwyr a theithiau grŵp. Hefyd, gallai'r profiad gynnwys darparu te prynhawn neu ginio yn y parc ei hun. Mae darpariaeth Les/Lesiant yn datblygu ym Mharc Gwledig Margam hefyd, a gellid manteisio ar y farchnad 'ymwybyddiaeth ofalgar' sy'n datblygu drwy gynnig profiadau yoga/myfyrio/iechyd a lles; byddai modd adlewyrchu hynny yn y cynigion a gyflwynir.

Sut mae cyflwyno cais

Gwahoddir gweithredwyr twristiaeth i ddod i ddigwyddiad rhanddeiliaid ddydd Mawrth 15 Hydref 2019, am 10am, yng Ngwesty a Sba the Towers. Bydd sesiwn y prynhawn yn canolbwyntio ar y Prosiect Clystyrau Darganfod, a bydd yn gyfle da i ddarpar glystyrau prosiect drafod eu syniadau gyda'r Tîm Twristiaeth. Mae'n hanfodol cadw lle, felly i archebu ewch i https://registervisitnpt.eventbrite.co.uk

Yn ogystal â'r digwyddiad uchod, gall y Tîm Twristiaeth eich helpu i gysylltu â gweithredwyr twristiaeth eraill yn yr ardal. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn arwain neu fod yn rhan o glwstwr i gyflwyno'r chwe phrofiad, cysylltwch â Thîm Twristiaeth Cyngor Castell-nedd Port Talbot, trwy E-bost: tourism@npt.gov.uk Ffôn: 01639 686417

Gallwch lawrlwytho'r Ffurflen Gais i Glystyrau a'r Nodiadau Cyfarwyddyd isod.

Ymgyrch Clystyrau Darganfod Castell-nedd Port Talbot - Ffurflen Gais a Chanllawiau i Glystyrau
Math o ffeil Dogfen Maint ffeil
pdf Ymgyrch Clystyrau Darganfod Castell-nedd Port Talbot - Ffurflen Gais a Chanllawiau i Glystyrau
557 KB

Bydd y ceisiadau'n cael eu hasesu gan banel, yn unol â'r canllawiau ymgeisio. Bydd angen i bob clwstwr gyflwyno'u ffurflen gais erbyn 12pm ddydd Llun 4 Tachwedd 2019.

Rhagwelir y bydd y clystyrau llwyddiannus yn cael eu hysbysu erbyn dydd Gwener 29 Tachwedd 2019.