Transport Links

Cysylltiadau Trafnidiaeth

Ar y ffordd o Gastell-nedd Port Talbot

Mae'r lleoliad ardderchog ger traffordd yr M4 yn cynnig mynediad uniongyrchol i Lundain a de-ddwyrain Lloegr tra bod yr A465, ffordd Blaenau'r Cymoedd, yn rhoi cysylltiad effeithlon â chanolbarth a gogledd Lloegr trwy'r M50, yr M5 a'r M6.

Neath Port Talbot Road Map

Caerdydd

50 munud

Bryste

1 awr 30 munud

Birmingham

2 awr 40 munud

Llundain 3 awr 30 munud

Ar y trên o Gastell-nedd Port Talbot

Mae Castell-nedd Port Talbot hefyd ar y rhwydwaith rheilffyrdd cenedlaethol ac mae gwasanaeth bob awr rhwng Llundain-Paddington, gan ganiatáu mynediad i gysylltiadau rheolaidd â rhannau eraill o Brydain ac Ewrop.

Caerdydd 30 munud
Bryste 1 awr 10 munud
Birmingham 3 awr
Llundain 2 awr 45 munud

Yn hedfan

Mae Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd, dim ond 40 munud i ffwrdd yn y car, yn cynnig teithiau awyr i dros 50 o gyrchfannau uniongyrchol, a mwy na 400 o deithiau awyr cysylltu i bob rhan o'r byd, gan gynnwys gwasanaeth cynlluniedig dyddiol i Faes Awyr Schiphol, Amsterdam a chysylltiadau â llawer o gyrchfannau ledled y byd.

Dros y môr

Mae gan Ddociau a Harbwr Llanw Port Talbot y cyfleusterau angori dyfnaf ym Môr Hafren ac maent yn gallu derbyn llongau hyd at 180,000 dwt. Hefyd, mae docfeydd cargo cyffredinol yn y doc mewnol ar gyfer amrywiaeth o draffig, gan gynnwys cargo trwm Ro-Ro (Roll-on/Roll-off) y mae angen cyfarpar codi arnynt.