Amdanom Ni

Tim CNPT

Os ydych yn ystyried lleoli'ch busnes yng Nghastell-nedd Port Talbot neu rydych eisoes yma, gall Tîm CNPT rhoi amrywiaeth o gefnogaeth i chi.  

Mae'r Tîm, sy'n cynnwys pobl brofiadol, broffesiynol o adrannau allweddol y cyngor megis Datblygu Economaidd, Tai ac Adfywio, yn rhoi gwasanaeth cynghori cynhwysfawr i'r rhai sy'n dymuno sefydlu, datblygu neu adleoli eu busnes yn yr ardal.  

Felly os oes angen ffeithiau a ffigurau am yr ardal arnoch, os ydych yn chwilio am y safle neu'r adeilad addas, neu os ydych am wybod ble i gael arian, yna Tîm CNPT yw eich cyswllt cyntaf.