Cwmni ym Mhort Talbot yn agor y llifddorau i ateb galw byd-eang

Mae MM Engineering wedi ymsefydlu ym Mhort Talbot ac mae'r cwmni'r un mor sefydledig yn yr ardal â'r cyfarpar amddiffyn rhag llifogydd y mae'n ei gynhyrchu.

Sefydlwyd MM Engineering yn 2016 gan ddau frawd, Chris a Martin McDermid, a'r cyfarwyddwr sydd hefyd yn berchennog ar y cyd â hwy, James Morton, ac mae wedi ennill clod yn y diwydiant amddiffyn rhag llifogydd a ffrwydrad.

Gan ganolbwyntio ar ddyluniad amddiffynfeydd llifogydd ar gyfer prosiectau mawr a drysau diogelwch i atal rhag ffrwydradau yn y lle, mae symud i leoliad newydd dri mis yn ôl yn Ystad Ddiwydiannol Seaway Parade ym Maglan wedi galluogi'r cwmni i ehangu i gynhyrchu.

Gan ddefnyddio dur y DU, mae MM yn dylunio ac yn adeiladu llifddorau, drysau a ffenestri arbennig ar gyfer ystod o gleientiaid cyfleustodau a pheirianneg, yn ogystal â drysau sy'n gallu gwrthsefyll ffrwydradau sydd gyfwerth â grym 100kg o TNT yn ffrwydro 25 metr i ffwrdd.

Meddai cyfarwyddwr rheoli busnes MM, Chris McDermid, "Roeddem am gael rheolaeth dros y ffordd rydym yn cynhyrchu ein nwyddau a'u safon, felly yn hytrach nag is-gontractio, penderfynom sefydlu ein cyfleuster ein hunain a chreu ein tîm ein hunain."

Mae Chris yn credu bod sefydlu'r tîm cynhyrchu arbenigol wedi bod yn haws am ei fod yng Nghastell-nedd Port Talbot - ardal â hanes diwydiannol cyfoethog a'r sgiliau cynhyrchu peirianneg cywir.

"Teimlwn yn gryf fod gweithio yng Nghastell-nedd Port Talbot yn addas iawn i'n busnes. Mae ein diwylliant busnes yn addas i'r ardal hon ac rydych yn teimlo fel rhan o ardal ddiwydiannol sydd â'r set sgiliau cywir. Pan hysbysebon ni roeddem yn ffodus iawn i dderbyn cynifer o ymgeiswyr profiadol ac addas."

Mae'r cwmni'n cyflogi deg aelod o staff yn ei uned newydd sy'n 6,000 troedfedd sgwâr mewn maint ond mae'n gobeithio dyblu nifer y bobl o fewn tair blynedd.

Mae agosrwydd at yr M4 hefyd wedi chwarae rhan fawr yn llwyddiant MM, sy'n helpu'r cwmni i wasanaethu contractau ar draws y DU a thramor.

"Ar hyn o bryd mae gennym brosiectau yn yr Alban, Swydd Efrog, Norwich, Jersey, Asia a'r Dwyrain Canol; felly mae'n hanfodol bod gennym y cysylltiadau trafnidiaeth hyn - ac mae lleoliad yr ystad ddiwydiannol hon yn wych."

Mae symud o fod yn fusnes sy'n canolbwyntio'n bennaf ar ddylunio i fod yn fenter dylunio ac adeiladu wedi gofyn am fuddsoddiad gwerth £80,000 ar gyfer cyfarpar arbenigol. Derbyniwyd cymorth gyda gwariant cyfalaf er mwyn sefydlu'r uned weithgynhyrchu gan CBSCNPT - a oedd hefyd yn allweddol wrth ddod o hyd i'r lleoliad perffaith.

Dywedodd Chris, "O'r cam cyntaf rydym wedi dweud ein bod am aros yn yr ardal hon ac mae gennym ffydd yng nghefnogaeth tîm Adfywio a Datblygu Economaidd CBSCNPT wrth i ni symud ymlaen.

"Mae'r gefnogaeth rydym wedi'i derbyn wedi bod yn wych, maent wedi bod yn cysylltu â ni'n rheolaidd ac mae'n gefnogaeth bersonol, go iawn - rydych yn teimlo fel bod gennych rywun sy'n eich cefnogi chi. Mae'n bwysig iawn i dîm CNPT am ei fod am weld busnesau'n ffynnu yma, ac rydym am aros yma i helpu'r economi leol. Yn sicr, byddwn yn argymell Castell-nedd Port Talbot fel lleoliad busnes."

Mae Chris a Martin - a symudodd o Essex i Gymru ar ôl bod yn y brifysgol - wrth eu bodd gyda'u lleoliad am fod delwedd gorfforaethol y cwmni'n cynnwys yr ardal gyfagos.

"Mae'r byd cynhyrchu'n gystadleuol iawn ac rydym yn credu mewn cyflwyno'r ddelwedd gywir i staff a chwsmeriaid", meddai.

O gofio hyn, mae'r swyddfa'n cynnwys bwrdd cyfarfod anarferol a wnaed ar y lleoliad gan staff MM. Mae'r arwyneb pren yn cynrychioli'r goedwigaeth leol a'r coesau metel siâp 'M' nodedig yw'r cysylltiad â diwydiant.

"Rydym wedi ceisio cyfleu hanfod Port Talbot; mae'n rhywbeth rydym wedi bod yn ei ystyried am ein bod yn teimlo cysylltiad go iawn â'r ardal."