Twtwyr cŵn ar y blaen

Pan fu Smudge, eu hannwyl ddaeargi Swydd Stafford farw, penderfynodd Sharon Hutchings a Mark Pike sefydlu busnes newydd er cof amdani.

O ganlyniad i hyn sefydlwyd Pampered Pooches, gwasanaeth twtio cŵn o safon uchel sydd â dros 200 o gleientiaid cŵn ar draws de Cymru.

Mae'r gwasanaeth teithiol hwn yng Nghwmafan yn darparu ar gyfer cŵn o bob siâp a maint, gan gynnig gwasanaethau twtio, torri ewinedd a glanhau clustiau a'r holl hanfodion eraill y mae perchnogion am eu cael ar gyfer eu hanifeiliaid anwes.

"Llafur cariad go iawn yw hyn", meddai Sharon. "Mae'r ddau ohonom wrth ein boddau â chŵn, a phan fu farw Smudge yn 2015 roedden ni am wneud rhywbeth er cof amdani."

Mae Pampered Pooches wedi bod ar waith ers blwyddyn, ac mae nifer y cleientiaid wedi cynyddu'n raddol yn yr amser hwnnw. "Rydym yn brysur iawn, ond yn dal i chwilio am gŵn newydd y gallwn ofalu amdanynt," meddai Sharon.

Mae cerbyd pwrpasol gan gyflenwr arbenigol yn darparu cyfleusterau o'r ansawdd gorau, ac mae Sharon a Mark wedi ennill cymwysterau mewn Twtio Cŵn Lefel Uwch.

Rhoddodd Kickstart grant cefnogi busnes gwerth £500 ar gyfer hanfodion. Cynhelir y rhaglen Kickstart ar y cyd rhwng is-sefydliad Tata Steel, UK Steel Enterprise, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

"Bu'r grant o help mawr i ni pan wnaethon ni sefydlu ac rydym yn ddiolchgar am yr holl gefnogaeth rydym wedi'i derbyn," meddai Sharon.

Dywedodd Glyn Thomas Rheolwr UK Steel Enterprise yn Nghymru, "Mae Pampered Pooches yn cynnig gwasanaeth defnyddiol i'r gymuned ac rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu cynnig cefnogaeth i roi'r busnes ar ben ffordd."