Canolfan addysg gymunedol Castell-nedd yn helpu mwy na 650 o drigolion gyda hwb Cyflymu Cymru

Mae canolfan addysg gymunedol yng Nghastell-nedd wedi gallu cynnal dros 20 cwrs hyfforddiant i bron 700 o bobl gyda chymorth Cyflymu Cymru.

Ar ôl elwa ar Cyflymu Cymru, mae’r Gweithdy DOVE ym Manwen, Castell-nedd, yn annog trigolion a busnesau eraill i edrych ar eu cysylltiad.

Ar ôl gorffen cyflwyno rhaglen Cyflymu Cymru mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch i atgoffa trigolion Castell-nedd fod band eang cyflym iawn ar gael ac am ei fanteision ac i annog trigolion i edrych ar yr opsiynau sydd ar gael iddynt. Mae Cyflymu Cymru yn bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, BT, Llywodraeth y DU a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Mae gwaith ymchwil a gynhaliwyd cyn lansio’r ymgyrch yn dangos bod 80% o bobl yn gwybod beth yw band eang cyflym iawn, yn enwedig trigolion y Gogledd, ond nad oedd menywod a thrigolion y Cymoedd mor ymwybodol ohono.

I hyrwyddo’r ymgyrch, mae mellten chwe throedfedd wedi bod yn teithio’r wlad ac wedi ymweld â sawl gŵyl, gan gynnwys y Sioe Fawr, Gŵyl Jazz Aberhonddu a Sioe Sir Benfro.

Daeth y fellten i ddiwedd ei thaith yng Ngweithdy DOVE lle cafodd Julie James, arweinydd y tŷ â chyfrifoldeb dros y seilwaith digidol, ei thywys o gwmpas y cyfleusterau a chlywed pa mor bwysig fu band eang cyflym iawn i’r sefydliad.

Ers ei sefydlu dros 30 mlynedd yn ôl, mae gweithdy DOVE wedi darparu math gwahanol o ddysgu drwy gynnig cyrsiau hyblyg i gynnwys TG, llythrennedd, Cymraeg yn ogystal â graddau rhan-amser ym Mhrifysgol Abertawe. Nod y ganolfan yw uwchsgilio’r gymuned leol ac mae cael band eang cyflym iawn wedi bod yn elfen hollbwysig i allu darparu’r cyrsiau hyn.

Diolch i Cyflymu Cymru, mae’r cyswllt band eang cyflym iawn sydd ar gael ledled Cymru wedi mwy na dyblu ers 2012. Yn ogystal â’r cartrefi a gysylltwyd trwy gynlluniau masnachol – mae gan y rhan fwyaf o gartrefi a busnesau Cymru fynediad i’r gwasanaeth erbyn hyn, a Chymru sydd â’r ddarpariaeth orau o blith gwledydd datganoledig y DU.

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod y niferoedd sy’n manteisio ar wasanaethau band eang ffeibr o’r seilwaith a adeiladwyd gan Cyflymu Cymru yn rhagori ar y disgwyliadau, ac wedi cyrraedd dros 46%, sy’n golygu bod y Llywodraeth ar y trywydd cywir o ran rhagori ar ei tharged gwreiddiol o 50% erbyn 2023.

Yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae dros 26,000 eiddo wedi’u galluogi o dan Cyflymu Cymru sy’n ychwanegiad at y gwaith o gyflwyno’r dechnoleg yn raddol i’r sector preifat. Mae bron i 45% o drigolion a busnesau sydd wedi’u galluogi drwy Cyflymu Cymru wedi manteisio ar y gwasanaeth ffeibr.

Meddai Lesley Smith, cydlynydd ar y cyd Gweithdy DOVE: “Mae’n wych bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymaint o bwys ar fand eang cyflym iawn, yn enwedig yng nghymunedau’r cymoedd. Mae band eang cyflym iawn wir yn helpu i roi mwy o gyfleoedd i bobl ac yn eu helpu i ddatblygu eu hunain.

“I ni, mae’n arbennig o bwysig gan ein bod wedi derbyn cyllid o’r Gronfa Datblygu Cyfalaf Gwledig i helpu i hyrwyddo llwybrau yn ôl i gyflogaeth o fewn y diwydiannau creadigol yng Nghymru a bydd cael rhyngrwyd cyflym yn allweddol i’n gwaith.

“Gobeithio bod arweinydd y tŷ wedi mwynhau ei thaith ac rydym yn freintiedig o gael ein dewis fel cymal olaf taith y fellten o gwmpas Cymru - roedd yn drawiadol iawn ac yn dipyn o gynnwrf yn yr ardal!”

Meddai Julie James, Arweinydd y Tŷ â chyfrifoldeb dros y seilwaith digidol: “Rwy’n falch o fod wedi cael y cyfle i ymweld â gweithdy DOVE. Mae’r cyrsiau maen nhw’n eu cynnig yn helpu o safbwynt cyflogaeth, a hefyd yn fuddiol dros ben i ddatblygiad personol pobl. Rwy’n falch iawn bod ein cynllun band eang cyflym iawn wedi galluogi gweithdy DOVE i ddarparu ei wasanaethau hollbwysig.

“Nod cam cyntaf ein hymgyrch codi ymwybyddiaeth oedd hyrwyddo manteision band eang cyflym iawn wrth roi rhaglen Cyflymu Cymru ar waith fesul cam.

“Ar ôl cwblhau’r cam cyntaf, mae’r pwyslais bellach ar godi ymwybyddiaeth bellach o’r gwasanaeth sydd ar gael i gymunedau ym mhob cwr o’r wlad, gan gynnwys yma yng Nghastell-nedd.

“Tra bod y rhan fwyaf o adeiladau yn gallu cael mynediad i fand eang cyflym iawn bellach, rwy’n gwybod bod rhai’n dal i ddisgwyl amdano neu’n ansicr a fyddant yn ei dderbyn. Mae cyngor a chymorth ar gael iddyn nhw.”

I weld pa wasanaeth band eang sydd ar gael, ewch i www.llyw.cymru/bandeang

Mae’n cynnwys gwybodaeth hefyd i rai nad ydynt yn gallu derbyn band eang cyflym iawn ar hyn o bryd, oherwydd efallai bod cymorth ar gael trwy Allwedd Band Eang Cymru, sy’n darparu arian grant i gael gafael ar fand eang cyflym iawn mewn ffyrdd eraill.