Cwmni o Bort Talbot yn cynhyrchu adeiladau modiwlaidd cwbl gyfoes

Arwyddair y cwmni yw 'Adeiladu Cynaliadwy Heb Gyfaddawdu' ac mae Wernick Buildings Ltd yn gwmni blaenllaw ym maes codi adeiladau modiwlaidd.

Mae'r cwmni'n rhan o grŵp o gwmnïau Wernick, a'r cadeirydd presennol, David Wernick, yw ŵyr sylfaenydd y busnes a ddechreuodd ym 1934 drwy werthu cewyll a siediau dofednod.

Dros y blynyddoedd, ehangodd y fenter drwy dwf naturiol a chaffael i gynhyrchu'r adeiladau modiwlaidd y mae'r cwmni'n enwog amdanynt heddiw.

Dechreuodd cysylltiad Wernick â Chastell-nedd Port Talbot ym 1989 pan brynodd y cwmni is-adran adeiladau modiwlaidd Taylor Woodrow, ym Mynachlog Nedd.

Mae Wernick yn adeiladu ystod o adeiladau modiwlaidd gydag amrywiaeth o orffeniadau mewnol ac allanol a nodweddion arbed ynni o'i ganolfan weithgynhyrchu yn Ystâd Ddiwydiannol Cynffig. Gall yr adeiladau fod yn addas ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau gan gynnwys ysgolion, ysbytai, cyfleusterau hamdden, lleoedd swyddfa a hyd yn oed dalfeydd.

Y system hynod gyfoes, Swiftplan™, sy'n arwain y ffordd. Fe'i lluniwyd i greu adeiladau aml-lawr pwrpasol sy'n cynnig arfer gorau am eu bod yn gallu gwrthsefyll tân am 120 o funudau.

Mae'r adeileddau hyn sydd wedi'u creu o fodiwlau unigol a gynhyrchwyd mewn ffatri, yn cael eu huno ar safle sydd eisoes wedi'i baratoi i ffurfio adeilad cyflawn, gan gymryd llawer llai o amser nag adeiladau traddodiadol.

"Canfyddiad yw'n prif her" meddai Leigh Fennell, Rheolwr Marchnata Grŵp Wernick. "Mae pobl yn tueddu i feddwl bod adeiladau modiwlaidd yn adeileddau parod, dros dro. Rydym yn gweithio gyda phenseiri a gwarentir yr adeiladau am 25 mlynedd, a gall eu hoes ddylunio fod yn 60 mlynedd neu fwy."

Dywedodd fod sawl mantais i adeiladau modiwlaidd - cyflymder a chost adeiladu i enwi dau'n unig - a "photensial enfawr" oherwydd ar hyn o bryd, 2% yn unig o adeiladau'r diwydiant adeiladu sy'n rhai modiwlaidd.

Ar hyn o bryd, defnyddir y rhan fwyaf o adeiladu modiwlaidd gan y sectorau addysg ac iechyd. Mae diddordeb cynyddol o'r diwydiant tai mewn methodoleg adeiladu oddi ar y safle lle mae cyfnodau adeiladu ar safleoedd yn allweddol.

Mae prosiectau diweddar yn cynnwys swyddfa ynni positif gyntaf y DU - Y Swyddfa Weithredol ar gampws Jersey Marine Prifysgol Abertawe.

Drwy weithio mewn partneriaeth â dylunwyr penodol a'r Brifysgol, adeiladodd Wernick yr adeilad modiwlaidd arloesol sy'n cynhyrchu, yn storio ac yn rhyddhau ei ynni solar.

Mae Wernick yn dilyn ei bregeth ei hun hefyd ac mae'r cwmni'n cynhyrchu ei bŵer ei hun ym Margam, gyda'r pŵer sy'n weddill yn cael ei fwydo i'r Grid Cenedlaethol.

Fel grŵp, mae Wernick yn cyflogi 630 o bobl y mae 160 ohonynt yn cael eu cyflogi gan Wernick Buildings, gydag oddeutu 120 o staff yn gweithio yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Roedd y gweithlu teyrngar yn rhan bwysig o benderfyniad y cwmni i aros yn ardal CNPT pan y bu'n rhaid chwilio am adeilad mwy oherwydd ei dwf.

Dywedodd Stuart Wilkie, Rheolwr- gyfarwyddwr Wernick, "Oherwydd natur ein gweithrediadau, roedd cael adeilad addas yn allweddol, ac fe gymerodd bum mlynedd i ddod o hyd i'r lle iawn. Roedd ein ffatri wreiddiol ym Mynachlog Nedd ac roeddem am symud i rywle yn yr ardal leol fel nad oeddem yn adleoli nac yn colli'n gweithlu presennol.

Dair blynedd yn ôl, symudodd Wernick ei ganolfan weithgynhyrchu i Fargam, gan gymryd drosodd hen orsaf drydan Orion a buddsoddi £3 miliwn yn y safle 9 erw a agorwyd yn swyddogol gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones AC ym mis Mehefin 2015.

Ers ymgartrefu yn ei leoliad newydd, mae trosiant y cwmni wedi tyfu o £22 miliwn i £30 miliwn y flwyddyn, gyda'r gwaith yn cynnwys prosiectau sy'n werth miliynau o bunnoedd.

Bob wythnos caiff oddeutu 900m2 a gwerth £300,000 o adeiladau eu creu ym Margam, mewn proses sydd bron yn ddi-wastraff a lle'r aiff braidd dim i safle tirlenwi.

Mae agosrwydd y safle at yr M4 a chysylltiadau cludiant ychwanegol hefyd yn chwarae rhan bwysig gan fod modiwlau Wernick yn cael eu cludo ar draws y DU a gallant fod mor fawr â 14m o hyd a 4m o led.

"Dyma'r lleoliad perffaith i ni," meddai Leigh, "ac rydym yn gobeithio adeiladu estyniad newydd yn y 24 mis nesaf er mwyn caniatáu i ni gynyddu'r hyn a gynhyrchwn."

Mae Wernick wedi meithrin cysylltiadau agos â darparwyr addysg yn CNPT a'r tu hwnt a chyda busnesau lleol a'r gymuned ehangach hefyd.

"Mae gennym raglen brentisiaeth CITB yma yn y ffatri, ac fel grŵp, rydym yn gwario cannoedd ar filoedd bob blwyddyn ar amrywiaeth o ffynonellau nawdd lleol a chenedlaethol.

"Mae llawer o'n cyflenwyr a'n his-gontractwyr o Gymru neu CNPT - rydym wedi bod yn gweithio gydag un busnes lleol yma am 25 mlynedd.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi cefnogi twf Wernick mewn sawl ffordd.

Meddai Stuart Wilkie, “Mae gennym berthynas dda â CNPT a'i dîm Gwasanaeth Busnes. Maent wedi rhoi cefnogaeth dda iawn i ni - yn enwedig y cymorth a roddwyd ganddynt gyda'n ceisiadau grant ar gyfer cyfarpar a meddalwedd cyfalaf. Rydym wedi gosod craeniau mwy yn y ffatri'n ddiweddar gyda chymorth CNPT, ac rydym yn hynod ddiolchgar am hyn."

Meddai'r Cyng. Annette Wingrave, "Wernick Building LTD yw'r union fath o gwmni blaengar rydym yn hoffi ei gefnogi yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae'r cyngor yn ymrwymedig i gefnogi cwmnïau lleol ac yn yr amseroedd anodd hyn, mae'n bleser bod yn dyst i lwyddiant o'r fath."