Busnes lleol yn creu’r olygfa i chwaraewyr gemau rhyfel y byd-eang

Mae rhoi sylw manwl i fanylder yn bwysig iawn i wneuthurwr modelu golygfeydd, War World Scenics, o Sgiwen.

Wedi'i sefydlu wyth mlynedd yn ôl gan ffrindiau Martyn Rees a Mark Jutsum, mae'r cwmni hwn sy'n tyfu'n gyflym yn gwmni blaenllaw yn y farchnad gemau â thema rhyfel ac ategolion rheilffyrdd gyda chwsmeriaid o bedwar ban byd.

I ddechrau, nid oedd Martyn, cyn-filwr a gweithiwr i Gyngor Dinas Abertawe, na Mark, cyn heddwas, yn gwybod dim am gemau â thema rhyfel na modelu ond dechreusant beintio ffigurynnau fel hobi.

Meddai Martyn, "Gofynnodd Mark a oeddwn i wedi clywed am gêm rhyfel ffantasi, Warhammer, felly aethom ati i beintio ffigurynnau. Roeddem yn falch iawn o'n hymdrechion ac roeddem yn teimlo fel bod bwlch yn y farchnad ar gyfer creu golygfeydd ar gyfer y modelau."

Heb ddisgwyl y byddai'r busnes yn tyfu i fod yn fenter amser llawn, buddsoddodd y ddau swm bach o £40 yr un a dechreusant greu gwaelodion a modelau o'u garejys yn eu hamser hamdden.

Fodd bynnag, daeth yn amlwg yn fuan eu bod wedi torri tir newydd o ran marchnad a oedd yn tyfu, ac aeth y ddau ati i agor siop yn Ystalyfera. Cyflogwyd llond llaw o staff yno er mwyn creu'r cynhyrchion roeddent yn eu gwerthu ar-lein yn unig, a thrwy fanwerthwyr megis Amazon ac eBay.

Cyn hir, roeddent wedi tyfu'n rhy fawr i aros yn y siop, a gwnaed y penderfyniad i symud i fangre ar Ystâd Ddiwydiannol Pontardawe 

Meddai Martyn, "Dyma le daeth Tîm Busnes CBSCNPT yn rhan o'r broses. Roeddem wedi mynd cyhyd ag oedd yn bosib i ni a, gan nad oeddem yn ddynion busnes a oedd wedi ein helpu i adolygu'r busnes, dadansoddi data ein marchnad ac, o ganlyniad, wedi ein rhoi ar y trywydd iawn ac rydym wedi bod yn ehangu ers hynny.

Maent hefyd wedi ein helpu i gael mynediad at grantiau er mwyn prynu'r peirianwaith y mae ei angen arnom er mwyn ehangu ein hamrediad cynnyrch.

"Ers i'r Tîm Busnes ddechrau gweithio gyda ni, mae ein trosiant wedi parhau i ddyblu, a'n targed ar gyfer diwedd y flwyddyn hon yw £1 miliwn."

Roedd eu hehangiad nesaf wedi'u harwain at eu huned bresennol yng Ngweithdai Pentref Lôn-las yn Sgiwen, lle mae WWS yn cyflogi 25 aelod o staff.

Meddai Martyn, "Mae gennym gyfieithwyr Ffrangeg, Sbaeneg ac Almaeneg, ffotograffydd, cydlynydd cyfryngau cymdeithasol, ac arweinydd yr uned ddylunio yw un o brif fodelwyr y diwydiant.

"Mae'r farchnad yn America'n enfawr ac rydym yn ystyried mynd yno er mwyn agor safle. Rydym yn ystyried y farchnad yn Asia hefyd."

Mae'r setiau sydd wedi'u pecynnu cyn lleied â phosibl yn cael eu hanfon at y modelwyr sy'n eu hadeiladu eu hunain. Yn ychwanegol at greu eu setiau brand eu hunain, mae WWS yn creu cynhyrchion ar gyfer masnachwyr a dosbarthwyr eraill gan gynnwys yr arbenigwyr modelau traciau rheilffyrdd, Peco.

Rhan allweddol o'r busnes oedd datblygu system Pro Grass - dull blaengar sy'n creu tirluniau a fflora a ffawna hynod naturiol eu golwg.

Gan ddefnyddio dros 70 o wahanol arlliwiau o wlân sy'n cael eu cymysgu a'u haenu gan ddefnyddio dodwr statig bach WWS, gellir ailgreu unrhyw dirwedd neu dymor. Erbyn hyn, WWS yw'r cynhyrchydd gwair statig mwyaf yn y DU, ac mae'r cwmni hefyd yn datblygu twffiau o wair y gellir eu gosod fesul un er mwyn rhoi nodweddion a gwead ychwanegol i'r dirwedd.

"Mae Pro Grass yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ein marchnadoedd gemau rhyfel a rheilffyrdd a phan rydym yn eu harddangos mewn digwyddiadau rydym yn denu torfeydd", esboniodd Martyn, sydd wedi creu sawl model addysgol ar gyfer Fferm Folly, gan gynnwys diorama 10 troedfedd i gyd-fynd â chyrhaeddiad llewod yn y sw yn Sir Benfro.

Yn gwasanaethu marchnadoedd modelu rheilffyrdd a gemau rhyfel, erbyn hyn mae gan WWS ddwy wefan ddynodedig, gyflenwol - www.war-world.co.uk a'r wefan a lansiwyd yn ddiweddar, www.warworldgaming.com

Gan ddefnyddio cyfarpar arbenigol megis argraffwyr 3D a thorwyr laser, mae'r cwmni'n creu amrywiaeth o olygfeydd a modelau sydd o hyd yn ehangu o ddigwyddiadau canoloesol a hanesyddol, golygfeydd o'r Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd, i gemau ffug-wyddonol a ffantasi ac amrywiaeth o ddioramâu.

Meddai Martyn, "Rydym yn ymchwilio ac yn datblygu cynnyrch newydd yn barhaus, ac rydym yn cynhyrchu rhywbeth newydd bron bob wythnos. Mae'r mwyafrif o'r offer a'r rhaglenni rydym yn eu defnyddio'n rhai rydym wedi eu dylunio ein hunain."

Mae'r cwmni'n cynnig prentisiaethau, a'i nod yw cydbwyso profiadau'r gweithle. Meddai Mark, "Mae gen i a Martyn yr wybodaeth olygfaol ac rydym yn ceisio recriwtio pobl y mae ganddynt wybodaeth am gemau rhyfel hefyd".

Mae manteision i'w sgiliau adeiladu golygfeydd hefyd, er enghraifft, mae'r gwlân a ddefnyddir i greu'r tirluniau'n berffaith ar gyfer dangosfyrddau ceir rasio gan nad yw'r deunydd yn adlewyrchu golau.

Ychwanegodd Martyn, "Mae llawer o farchnadoedd eraill y gallem fentro iddynt, a chyda help Tîm Busnes CBSCNPT rydym wedi gallu parhau i ddatblygu ein busnes. Mae gennym ni'r syniadau ac maen nhw wedi ein harwain ni."

Meddai’r Cyng. Annette Wingrave: “Rwy’n hynod falch bod y tîm datblygu busnes wedi gweithio gyda busnes bach yn wreiddiol i’w helpu i dyfu ac ehangu ei gynnyrch. Mae’n braf gweld cwmni lleol yn llwyddo ac yn datblygu ei fusnes ar gyfer cwsmeriaid ar draws y byd. Hoffwn ddymuno pob llwyddiant i chi yn y dyfodol.”