Hysbysiad Preifatrwydd

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD

GWASANAETHAU DATBLYGIAD ECONOMAIDD CBS CASTELL-NEDD PORT TALBOT


CYFLWYNIAD

Ar ôl 25 Mai bydd y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rheoli sut rhydym yn ymdrin a’ch gwybodaeth. Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn nodi: (1) sut rydym yn defnyddio'ch gwybodaeth; a (2) yr hawliau newydd a fydd gennych mewn perthynas â'ch gwybodaeth o 25 Mai 2018.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yw'r rheolwr data (at ddibenion y GDPR) mewn perthynas â'r data personol a gedwir gennym.

 

YR WYBODAETH RYDYM YN EI CHADW:

Bydd yr wybodaeth a gedwir gennym yn wybodaeth bersonol a/neu'n wybodaeth fusnes fel a fanylir isod.

 

Gwybodaeth bersonol

Er mwyn eich cefnogi fel busnes presennol/newydd posib mae angen i ni gasglu a chadw gwybodaeth bersonol amdanoch. Gallai hyn gynnwys:

  • Enw
  • Swydd yn y busnes
  • Cyfeiriad
  • Rhifau Ffôn
  • Cyfeiriadau e-bost

 

Sut rydym yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol

Caiff yr wybodaeth bersonol a gesglir ei defnyddio i gysylltu â chi:

  • Ynghylch ymholiad rydych wedi'i wneud i'r tîm
  • I ddweud wrthych am gefnogaeth bosib a all fod ar gael i'ch cynorthwyo
  • I roi'r wybodaeth i chi sy'n berthnasol i'ch ymholiad
  • Lle y bo'n berthnasol, er mwyn prosesu a rheoli tenantiaethau yng Nghanolfan Fusnes Sandfields
  • Lle y bo'n berthnasol, er mwyn gwahodd a phrosesu ceisiadau i ddigwyddiadau a drefnir gan y Gwasanaeth Datblygiad Economaidd  

 

Gwybodaeth i fusnesau

O ran eich busnes neu'ch syniad busnes, cedwir y canlynol:

  • Enw'r busnes
  • Cyfeiriad y busnes
  • Rhifau ffôn
  • Cyfeiriadau e-bost
  • Gwegyfeiriadau a chyfeiriadau cyfryngau cymdeithasol
  • Math o fusnes
  • Y sector busnes
  • Nifer y rhai a gyflogir
  • Gwybodaeth ariannol
  • Gwybodaeth am unrhyw ofynion rheoleiddiol neu statudol megis sgorau hylendid bwyd, iechyd yr amgylchedd etc. fel y bo'n briodol.
  • Manylion eich cyswllt â chi

 

Byddwn yn casglu ac yn cadw gwybodaeth am eich busnes a manylion ein cysylltiadau â chi er mwyn:

  • Ymateb i ymholiadau
  • Prosesu, gwerthuso a monitro ceisiadau am arian
  • Gyda'ch caniatâd, anfon gwybodaeth atoch, (e.e. cylchlythyrau, digwyddiadau, hyfforddiant etc.) a allai fod yn berthnasol i'ch busnes
  • Gyda'ch caniatâd, i hyrwyddo'ch busnes ar Gyfeiriadur Busnes CBS CNPT
  • Cynnal proffil cyfoes o weithgarwch busnes yn y fwrdeistref sirol
  • Cyfrannu at ddatblygu cynlluniau strategol - yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol
  • Adolygu a chyfeirio gwasanaethau a ddarperir yn y dyfodol
  • Adrodd am ddangosyddion perfformiad mewnol

EIN SAIL GYFREITHIOL AM DDEFNYDDIO'CH GWYBODAETH

Byddwn yn prosesu'ch gwybodaeth ar y sail gyfreithiol ei bod hi'n angenrheidiol i ni berfformio tasg gyhoeddus wrth gyflwyno gwasanaethau datblygiad economaidd.

Os ydych wedi dewis derbyn gwybodaeth/gohebiaeth, neu wedi cofrestru ar ein Cyfeiriadur Busnes, byddwch wedi rhoi eich caniatâd i ni brosesu'ch data. Byddwn yn parhau i gadw'ch gwybodaeth am oes eich busnes neu nes i'ch cais gael ei ddileu o'r rhestr bostio a/neu'r rhestr yn y Cyfeiriadur Busnes drwy e-bostio business@npt.gov.uk 

 

AM FAINT O AMSER Y BYDDWN YN CADW'CH GWYBODAETH

Caiff eich gwybodaeth ei chadw gyhyd ag y mae eich busnes yn cael ei leoli ac yn gweithredu ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot.

Os yw'ch busnes yn rhoi'r gorau i fasnachu, neu'n symud o'r fwrdeistref sirol, caiff eich gwybodaeth ei chadw am ddigon o amser i ganiatáu i ni allu ymateb i unrhyw gwestiynau a allai godi o   ganlyniad i hynny.

Os yw'ch busnes wedi derbyn arian grant, cedwir eich gwybodaeth fel uchod ac am hyd at chwe blynedd ychwanegol, yn unol â pholisi cadw dogfennau'r cyngor.

Pan na fydd angen eich gwybodaeth mwyach, caiff ei dinistrio'n ddiogel.

 
Y TRYDYDD PARTÏON RYDYM YN RHANNU'CH GWYBODAETH Â HWY

Gall yr wybodaeth gael ei rhannnu ag adrannau eraill y cyngor:

  • wrth brosesu, gwerthuso a monitro ceisiadau am arian
  • wrth brosesu ceisiadau am ddigwyddiadau
  • wrth asesu prosiectau posib
  • ar gais adrannau eraill i gyflawni eu rhwymedigaethau

 

Ni fyddwn yn rhannu'ch gwybodaeth â thrydydd partïon allanol heb eich caniatâd. Fodd bynnag, gellir rhannu'ch gwybodaeth â sefydliadau eraill lle mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i wneud hynny.

 

EICH HAWLIAU MEWN PERTHYNAS Â'CH GWYBODAETH

Mae'r GDPR yn rhoi nifer o hawliau i chi mewn perthynas â'ch gwybodaeth gan gynnwys y canlynol:

  1. Gallwch ofyn i ni am gopi o'r wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch a disgrifiad o sut rydym yn defnyddio'r wybodaeth honno.
  2.  Os ydych yn credu y gall unrhyw wybodaeth a gedwir amdanoch gennym fod yn anghywir neu'n anghyflawn ac ni allwch chi gywiro'r wybodaeth hon eich hun, gallwch fynnu ein bod ni'n cywiro'r anghywirdebau hyn.
  3.  Gallwch fynnu ein bod yn dileu eich gwybodaeth mewn rhai amgylchiadau (ac eithrio lle nad yw cyfyngiadau amser sy'n gysylltiedig â chyllid a dderbyniwyd wedi dod i ben, a lle gall ymholiadau godi sy'n ymwneud â'r busnes yn rhoi'r gorau i fasnachu neu weithredu yng Nghastell-nedd Port Talbot).  
  4.  Gallwch fynnu ein bod yn cyfyngu ar y defnydd o'ch gwybodaeth mewn rhai amgylchiadau.
  5.  Lle byddwn yn prosesu'ch gwybodaeth i berfformio tasg gyhoeddus, gallwch wrthwynebu hyn mewn rhai amgylchiadau.
  6.  Os ydych wedi rhoi caniatâd i ni brosesu'ch gwybodaeth at ddibenion penodol (e.e. i anfon cylchlythyrau, manylion digwyddiadau, etc.) gallwch dynnu'ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg.

 

DIWYGIADAU I'R HYSBYSIAD PREIFATRWYDD

Gellir diwygio'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn o bryd i'w gilydd. Byddwn yn eich hysbysu'n ysgrifenedig am unrhyw ddiweddariadau.

 

SUT I GYSYLLTU Â NI

 

Os bydd unrhyw ymholiadau gennych o ran y defnydd o'ch data personol, os ydych am gael mynediad i'ch data, neu os ydych am wneud cwyn o ran ei gasglu, cysylltwch â swyddog Diogelu Data Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Canolfan Ddinesig, Port Talbot SA13 1PJ.